Mae Plaid Cymru yn galw am eglurhad ynghylch a fydd Aelodau Cynulliad Llafur yn cael eu chwipio i gefnogi cadw enw uniaith Gymraeg y Senedd.

Y gred yw y bydd Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn chwipio’r aelodau ar ôl datgan yn gyhoeddus nad yw am weld enw’r Senedd yn cael ei chyfieithu i’r Saesneg.

Daw’r ansicrwydd ar ôl i’r Trefnydd, Rebecca Evans, un o weinidogion Llywodraeth Cymru, awgrymu ddydd Mawrth (Hydref 1) y byddai aelodau’n cael pleidleisio yn ôl eu dymuniad.

Rhun ap Iorwerth sy’n galw am eglurhad ynghylch y dewis posib rhwng ‘Senedd’ ac ‘opsiwn sy’n cael ei gefnogi gan y Torïaid’.

‘Enw sy’n perthyn i bawb yng Nghymru’

“Yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog ddoe, cadarnhaodd y Trefnydd Rebecca Evans y byddai’r bleidlais ar yr enw newydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru’n bleidlais rydd a gobeithiwn y bydd aelodau meinciau cefn Llafur yn parhau i gefnogi galwad Plaid Cymru i aros gyda’r consensws blaenorol, sef ‘Senedd’ – enw sy’n perthyn i bawb yng Nghymru, waeth bynnag am eu dewis iaith,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Fodd bynnag, mae Plaid Cymru wedi cael ar ddeall y bydd Gweinidogion y Llywodraeth yn cael eu chwipio.

“Rydym felly yn galw am eglurhad ynghylch a fydd gweinidogion Llywodraeth Cymru’n cael eu chwipio i bleidleisio dros yr enw ‘Senedd’ yr opsiwn y mae’r prif weinidog yntau wedi dweud ei fod yn ei ffafrio, neu’r opsiwn sy’n cael ei gefnogi gan y Torïaid.

“Byddai’n rhyfedd iawn pe na bai gweinidogion y Llywodraeth hyd yn oed yn cael cefnogi hoff opsiwn y prif weinidog.”