Helen Mary Jones
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd arweinydd newydd y blaid wedi ei benodi erbyn mis Mawrth 2012.

Cyhoeddodd y blaid eu hamserlen ar gyfer dewis arweinydd mewn digwyddiad yn Ynys y Barri heddiw, gan ddweud y byddai enwebiadau yn cael eu derbyn yn ystod mis Ionawr 2012, gydag arweinydd yn ei le i annerch cynhadledd wanwyn y blaid ar 23 Mawrth.

Yn ystod y cyhoeddiad, dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones, y byddai’r cyfnod er mwyn derbyn enwebiadau yn para o 3 Ionawr i 26 Ionawr.

“Mae hyn yn adeg cyffrous iawn i Plaid,” meddai Helen Mary Jones yn y cyhoeddiad.

“Heddiw gallwn ni gyhoeddi y bydd enwebiadau ar gyfer Arweinyddiaeth 2012 yn dechrau ar 3 Ionawr, a bydd arweinydd newydd wedi cael ei ethol erbyn 15 Mawrth, er mwyn parhau gyda’r gwaith o adnewyddu Plaid.”

Hyd yn hyn, mae dau Aelod Cynulliad wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu sefyll am yr arweinyddiaeth, sef yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, AC Dwyfor Meirionydd, ac Elin Jones, AC Ceredigion.

Mynd â’r etholiad at y gymuned

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw yn mynd â’r broses o ethol arweinydd at gymunedau ar draws Cymru y tro hwn, gyda chyfarfodydd mewn lleoliadau ar hyd a lled y wlad.

“Am y tro cyntaf erioed fe fyddwn ni’n cynnal dadleuon arweinyddiaeth cenedlaethol yn ystod yr etholiad, a fydd yn caniatau unrhyw aelod o’r cyhoedd i ofyn cwestiynau i’r ymgeiswyr,” meddai Helen Mary Jones.

“Bydd y dadleuon hyn yn cael eu darlledu’n fyw ar-lein, ac fe fyddwn ni’n gobeithio cyd-weithio â’r cyfryngau er mwyn rhoi cyfle i bawb gynnig cwestiynau i’r ymgeiswyr neu fynychu’r dadleuon.

“Mae’r etholiad yma, wrth gwrs, yn fwy na dim ond y blaid,” meddai’r Cadeirydd. “Fe fyddwn ni’n ethol Prif Weinidog posib i Gymru’r dyfodol, ac yn dewis pwy fydd yn symud Cymru ymlaen dros y blynyddoedd nesaf.”