Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi dweud wrth gynhadledd ar ddyfodol cefn gwlad Cymru, ni ddylid anghofio’r opsiwn o adael yr Undeb Ewropeaidd ond aros o fewn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau, a dyma’r ffordd orau i barchu canlyniad y refferendwm ac atal difrod i”r heconomi a chymunedau gwledig.

Wrth annerch digwyddiad Cymunedau Gwledig Cynaliadwy ar ôl 2020 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts, y dylai Boris Johnson ail-afael yn yr hyn y mae’r FUW wedi bod yn ei ddweud o’r dechrau.

“Dyna’r opsiwn i anrhydeddu’r refferendwm – trwy adael yr Undeb Ewropeaidd – ond aros o fewn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau er mwyn atal difrod aruthrol i’n heconomi ac yn benodol i’n cymunedau gwledig.

“Ni ellir honni o dan unrhyw amgylchiadau bod y mwyafrif wedi pleidleisio o blaid difrod eithafol Brexit heb gytundeb.

“I’r gwrthwyneb, rhwng y rhai a bleidleisiodd yn erbyn gadael yr UE a’r rhai oedd yn credu bod nhw’n pleidleisio am ffurfiau meddalach o Brexit, credaf fod mwyafrif clir o blaid cynnal perthynas agos â marchnad gefnog yr UE y mae cannoedd o filoedd o’n busnesau yn dibynnu arno.

“Rydyn ni wedi derbyn yr angen i anrhydeddu’r refferendwm, felly mae’n hollol anonest ac yn fwriadol gynhennus i’n cyhuddo o fradychu canlyniad refferendwm trwy eisiau osgoi Brexit diofal gyda goblygiadau trychinebus a fyddai’n effeithio ar genedlaethau i ddod.”