Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw dyn o ardal Cwmbran y cafwyd hyd i’w gorff ar dir o fewn Gwarchodfa Natur Taf Fechan ym Merthyr Tudful.

Maen nhw’n trin marwolaeth Steven Hodges fel un anesboniadwy ar hyn o bryd.

Cafwyd hyd i’w gorff gan aelod o’r cyhoedd tua hanner dydd ar ddydd Sul, Medi 8 ar ddarn o dir o fewn y gwarchodfa natur.

Pan gafwyd hyd i’w gorff roedd siaced lliw gwyrdd a du, a phâr o trainers gwyn Reebok ar goll ac nid yw’r heddlu wedi dod o hyd iddyn nhw.

Maen nhw’n apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld yr eitemau yma yn, neu o gwmpas, yr ardal i gysylltu â nhw.

Parhau mae’r apêl hefyd ar yrwyr a fyddai wedi bod yn gyrru ar hyd ffordd yr A465 rhwng Cefn Coed a Dowlais yn ystod oriau mân ddydd Sul rhwng hanner nos a 2yb, i edrych ar eu camerâu dashcam am luniau o ddyn yn cerdded ar hyd y ffordd tuag at Ddowlais.

Roedd archwiliad post mortem yn dangos bod Steven Hodges wedi marw o ganlyniad i anaf i’w ben.

Mae ei deulu yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu.

Mae dyn 37 oed o Ferthyr Tudful a gafodd ei holi mewn cysylltiad â’r digwyddiad wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.