Mae 21 o gyffurgwn wedi eu carcharu wedi i heddluoedd atal y criw rhag cyflenwi gwerth £6m o ganabis.

Daeth y glas o hyd i ffatri ganabis yng Nghwm Cynon ac wrth ymchwilio iddi daeth heddweision o hyd i rwydwaith gyflenwi canabis yn y de a’r gorllewin.

Fe gafodd y cyffurgwn eu harestio gan Heddluoedd y De, Gwent a Dyfed-Powys, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Gyfunol – enw eu cyrch oedd ‘Operation Violet Panama’.

15 ffatri ganabis

Yn ystod cyrchoedd ar 15 o ffatrïoedd canabis ym mis Tachwedd y llynedd, daeth y gwahanol heddluoedd o hyd i fanylion 30 ffatri ganabis a stordai cyffuriau eraill.

Mae’r canabis gwerth £6 miliwn yn pwyso 2.5 tunnell.

Yn ôl yr heddlu roedd y gwaith o gynhyrchu’r canabis “ar raddfa ddiwydiannol” a’r rhan fwyaf o’r cyffurgwn wedi dod i’r wlad yn anghyfreithlon.

Mi fyddan nhw yn cael eu hel adref ar ôl cwblhau eu cyfnod dan glo, yn ôl yr heddlu.

Y cyffurgwn a’u cyfnodau yn y carchar

  • Bang Xuan Luong, 44, wyth mlynedd
  • Lan Dinh, 38, pedair blynedd a deufis
  • Tuan Van Doan, 33, dwy flynedd
  • Tran Van Giang, 32, tair blynedd
  • Quang Lam, 34, pum mlynedd
  • Toan Van Nguyen, 39, pedair blynedd a naw mis
  • Hiue Quang Pham, 29, dwy flynedd
  • Pham Quang Hai (Long Pham gynt), 19, dwy flynedd a thri mis
  • Tuan Anh Pham, 20, pum mlynedd
  • Vu Thi Thu Thuy, 41, chwe blynedd
  • Trang Thanh Tran, 37, dwy flynedd – wedi ei ohirio am 12 mis
  • Van Lang Tran, 24, dwy flynedd
  • Xuan Le Truong, dwy flynedd
  • Doan Duc Vu, 40, pedair blynedd
  • Dung Phu Vu, 35, dwy flynedd a phedwar mis
  • Dung Van Vu, 27, pum mlynedd a phum mis
  • Ngocbao Vu, 22, chwe blynedd a phum mis
  • Toan Van Vu, 52, tair blynedd a chwe mis
  • Khanh Van Pham, 26, pedair blynedd a deg mis
  • Khuong Van Luong, 35, dwy flynedd
  • Vu Phung Luu, 19, dwy flynedd ac wyth mis