Mae Cymru yn un o’r llefydd rhataf ym Mhrydain i brynu a chynnal a chadw car, yn ôl arolwg gan gwmni o Lancashire.
Bu Hippo Motor Finance yn cymharu’r gost o brynu a rhedeg Ford Fiesta, un o geir mwyaf poblogaidd gwledydd Prydain, mewn gwahanol ranbarthau.
Dim ond yr Alban sy’n rhatach na Chymru o ran prynu Ford Fiesta a’i gynnal a’i gadw am flwyddyn, o blith yr holl lefydd yng ngwledydd Prydain.
Rhanbarth Cost:
Yr Alban £8,908.58
Cymru £9,324.50
Canolbarth Lloegr £9,760.11
Llundain £10,432.37
Dynion yn talu mwy
Mae dynion yn talu 34% yn fwy am yswiriant car na merched, yn ôl yr arolwg.
Mae tros 38 miliwn o geir wedi eu trwyddedu yng ngwledydd Prydain, a bu Hippo Motor Finance yn dadansoddi gwybodaeth ar y We am berchnogion ceir Ford Fiesta er mwyn cymharu costau.