40 yn colli’u swyddi wrth i gwmni penseiri Boyes Rees fynd i’r wal
Diweddarwyd am
Mae cwmni Penserniaeth Boyes Rees Architects wedi mynd i’r wal, gan roi 40 o bobol yn ei swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llundain ar y clwt.
Cafodd Siann Huntley ac Andrew Beckingham sy’n gweithio i Leonard Curtis Business Rescue & Recovery eu penodi yn gyd-weinyddwyr wedi i’r cwmni fynd i drafferthion ariannol.
“Ar ôl cael cyngor proffesiynol, mae cyd-weinyddwyr wedi eu hapwyntio. Mae’r cwmni bellach wedi stopio masnachu ac mae holl staff y cwmni wedi eu gwneud yn ddi-waith,” meddai datganiad gan Leonard Curtis.
“Mae Leonard Curtis yn gweithio gyda’r holl gyfranddalwyr i geisio cyflawni’r canlyniad gorau posib. “
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.
Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.