Mae’r gweithiwr a fu farw mewn damwain yn ymwneud â pheirianwaith ar safle gwaith dur cwmni Tata yn Port Talbot wedi cael ei enwi yn lleol.

Bu farw Justin Day, 44, o Abertawe ychydig cyn 2yp ddoe (dydd Mercher, Medi 25), a’r gred yw ei fod yn gontractiwr a oedd yn gweithio i gwmni Mii Engineering yn ardal Caerffili.

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i’r digwyddiad ar y cyd â’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Yn ôl llefarydd ar ran Tata Steel: “Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau. Mae ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal.”

Mae tudalen ar y wefan GoFundMe wedi cael ei sefydlu er cof am Justin Day. Mae’r dudalen yn talu teyrnged i’w wraig, Zoe, a’u dau o feibion.