Mae ymchwil newydd yn awgrymu fod plant yn eu harddegau yn llai tebygol o ufuddhau i gyfarwyddiadau mamau sy’n defnyddio tôn llais llym.

Fe fu ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn holi 1,000 o blant rhwng 14-15 oed i archwilio sut oedden nhw’n ymateb i dôn llais wrth dderbyn cyfarwyddiadau gan eu mamau, a hynny pan oedd y geiriau a ddefnyddiwyd yn union yr un fath oni bai am yr oslef.

“Os yw rhieni eisiau i drafodaethau gyda’i plant i fod o fudd, mae’n bwysig defnyddio tôn llais cefnogol,” meddai Dr Netta Weinstein, prif awdur yr ymchwil.

“Mae’n hawdd i rieni anghofio, yn enwedig os ydyn nhw’n teimlo o dan straen, wedi blino, neu o dan bwysau.”

Mae canlyniadau’r ymchwil hefyd yn dangod fod y plant yn fwy tebygol o ymateb i’r cyfarwyddiadau a oedd yn cael eu cyfleu gydag anogaeth a chefnogaeth, yn hytrach nag fel gorchmynion.