Mae un o gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru wedi ysgrifennu llythyr at UEFA yn galw ar y corff i ail-ystyried y penderfyniad i wahardd cefnogwyr Cymru rhag gwylio’r gêm yn erbyn Slofacia.

Bydd tîm Ryan Giggs yn wynebu Slofacia yn ninas Trnava ar Hydref 10, ac roedd disgwyl i fwy na 2,000 o gefnogwyr Cymru fod yn bresennol yn y gêm. Ond mae UEFA wedi penderfynu cynnal y digwyddiad y tu ôl i ddrysau caeedig yn dilyn ymddygiad hiliol gan gefnogwyr Slofacia yn y gêm yn erbyn Hwngari yn Budapest ar Fedi 9.

Mae’r cam wedi ennyn ymateb chwyrn, gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud nad yw ei chefnogwyr yn “haeddu cael ei chosbi yn yr un ffordd” â chefnogwyr Slofacia.

Mae disgwyl i Gymdeithas Bêl-droed Slofacia apelio yn erbyn y gosb.

“Creulon ac anghyfiawn”

Un cefnogwr sy’n siomedig na fydd yn cael gweld gêm nesaf Cymru yw’r blogiwr Gary Pritchard, sy’n defnyddio’r enw @blogdroed ar wefan Twitter.

Yn ei lythyr at UEFA, mae’n dweud bod cosbi cefnogwyr Cymru yn “hynod o greulon ac anghyfiawn”.

“Dydw i ddim am un eiliad yn esgusodi ymddygiad hiliol cefnogwyr Slofacia, ond mae’n rhaid cwestiynu pam y dylai cefnogwyr Cymru, sydd eisoes wedi talu costau teithio ac aros, gael eu cosbi am y digwyddiad hwn,” meddai Gary Pritchard yn ei lythyr.

“Yn dilyn cystadleuaeth yr Ewros yn 2016, fe wnaeth Llywydd UEFA Aleksander Čeferin dalu teyrnged i’r balchder, y parch a’r brwdfrydedd a ddangoswyd gan gefnogwyr Cymru yn ystod y bencampwriaeth, ac fe gyflwynwyd plac arbennig i’r gymdeithas genedlaethol mewn cydnabyddiaeth o hyn.

“Mae’r gosb sy’n cael ei rhoi i Gymdeithas Bêl-droed Slofacia yn mynd i amddifadu [tîm Cymru] o gefnogaeth ei gefnogwyr, ac i amddifadu’r cefnogwyr o’r cyfle i gefnogi eu tîm…

“Dw i’n galw ar UEFA i ailystyried gwahardd cefnogwyr Cymru o’r stadiwm. Mae cosbi grŵp o gefnogwyr hollol ddiniwed yn hynod o greulon ac anghyfiawn.”