Mae Leanne Wood, cyn-arweinydd Plaid Cymru, yn dweud y gallai gwahodd y Tywysog Andrew i Brifysgol De Cymru niweidio enw da’r sefydliad.

Mae digwyddiad Pitch@Palace yn gyfle i gefnogi gwaith entrepreneuriaid ardal y brifysgol yng Nghasnewydd.

Ond mae’r tywysog wedi cael sylw negyddol yn y wasg dros y misoedd diwethaf yn sgil ei gyfeillgarwch â Jeffrey Epstein, oedd wedi’i garcharu am droseddau rhyw yn erbyn merched ifanc.

“Ro’n i wedi cael braw o weld fod ail fab y frenhines wedi cael gwahoddiad i gampws Prifysgol De Cymru,” meddai Aelod Cynulliad y Rhondda yn y Siambr.

“Tra fy mod yn gredwr cryf yn yr egwyddor o fod yn ddieuog hyd nes y byddwch wedi’ch cael yn euog, mae’r aelod hwn o’r teulu brenhinol wedi cael ei gyhuddo o droseddau difrifol iawn ac o gamdrin ei bŵer.”

Dylai fod y cyhuddiadau a’r honiadau hynny, meddai, “yn ddigon i sicrhau nad oes croeso i’r dyn hwn ym Mhrifysgol De Cymru, tra bod y fath gyhuddiadau difrifol heb esboniad digonol uwch ei ben”.

Dywed ei bod hi’n credu y gallai’r sefyllfa niweidio enw da’r brifysgol, a gofynnodd hi i Rebecca Evans, y Gweinidog Busnes, am sicrwydd y gallai’r Llywodraeth roi pwysau ar sefydliadau i osgoi sefyllfaoedd o’r fath.

Times Up Me Too Movement – #metoo

Posted by Leanne Wood on Tuesday, 24 September 2019

Ymateb y Llywodraeth

Wrth ymateb, dywedodd Rebecca Evans fod prifysgolion yn “sefydliadau annibynnol ac awtonomaidd”, ac mai “mater i brifysgolion yw penderfynu pwys sy’n cael gwahoddiad i’w campysau”.

“Does gan Lywodraeth Cymru ddim llais yn y fath faterion,” meddai wedyn.