Fe fydd Gary Slaymaker, y beirniad ffilmiau a chyflwynydd S4C a Radio Cymru, ymhlith y beirniaid ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Cymru yng Nghastell-nedd yr wythnos hon.

Mae disgwyl i gannoedd o bobol sy’n gweithio ym myd ffilm a theledu yng Nghymru, gweddill gwledydd Prydain a thu hwnt fod yn bresennol.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn Neuadd Gwyn y dref heddiw ac yfory (dydd Llun a dydd Mawrth), gyda thros 70 o ffilmiau’n cael eu dangos yn rhad ac am ddim a nifer o weithdai gydag awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr ffilmiau.

Un o’r rhai fydd yn arwain gweithdy yw Roger Williams, awdur y gyfres Bang ar S4C, a fydd yn trafod y grefft o gynhyrchu ar gyfer ffilm a theledu.

Fel rhan o bartneriaeth gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot, bydd Neuadd Gwyn yn gartref i’r ŵyl am o leiaf dair blynedd.

Fel rhan o’r ŵyl, fe fydd 300 o fyfyrwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn seminar ar gampws Coleg Castell-nedd, a phlant ysgol gynradd leol yn cael gweithdy arbennig fel rhan o’u gwaith ysgol.

Bydd gwahoddedigion o’r diwydiant hefyd yn cael taith fws o leoliadau ffilm a theledu yn yr ardal.

Uchafbwynt yr ŵyl fydd noson wobrau yn yr un lleoliad heno, o dan arweiniad Kevin Johns, y cyflwynydd radio lleol sydd hefyd yn adnabyddus fel cyhoeddwr yn Stadiwm Liberty yn Abertawe.

‘Braint i’r ardal’

“Rydym wedi cyffroi fod y tîm wedi ymrwymo i ddod â Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Cymru i Gastell-nedd am y dair blynedd nesaf,” meddai’r Cynghorydd Rob Jones, arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

“Mae’n fraint i’r ardal ac fe fydd yn gyfle gwych i wneuthurwyr ffilmiau, myfyrwyr coleg a’r cyhoedd yn ehangach i gael mwynhau gwylio dwsinau o ffilmiau a ffilmiau byrion.

“Fe fydd yna weithdai a sesiynau rhwydweithio gyda gwneuthurwyr a chynhyrchwyr ffilmiau o bob cwr o’r byd.

“Edrychwn ymlaen yn fawr at groesawu pawb i’r ardal.”

‘Mynd â’r ŵyl i lwyfan byd-eang’

“Fe fydd Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Cymru’n ddigwyddiad gwych i wneuthurwyr ffilmiau newydd i gyfarfod ag arbenigwyr o’r diwydiant ac i gynhyrchwyr a chyfarwyddwyr profiadol rwydweithio a chyfnewid syniadau gyda phobol o Ewrop, yr Unol Daleithiau a Chanada,” meddai Samira Mohamed Ali, un o gyfarwyddwyr a threfnwyr yr ŵyl.

“Yr ethos y tu ôl i’n sefydliad nid-am-elw yw ein bod ni’n arddangos ac yn tynnu sylw at y talentau gorau, gyda’r bwriad o ehangu’r ŵyl ar sawl platfform ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.”