Mae un o gynghorwyr tref Caergybi’n dweud y bydd yn parhau’n aelod “yn annibynnol o unrhyw blaid”.

Ond mae Vaughan Williams, a gyflwynodd ei enw’n ddiweddar i fod yn ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Ynys Môn yn 2021, yn dweud nad yw “eto” wedi gadael y blaid.

“Byddaf yn eistedd ar Gyngor Tref Caergybi fel aelod amhleidiol,” meddai mewn datganiad ar ei dudalen Facebook, cyn ychwanegu y bydd yn “annibynnol o unrhyw blaid”.

“Edrychaf ymlaen at barhau i wasanaethu fy nghymuned yn London Road gyda’m cyd-gynghorydd Keith Thomas (Plaid).

“Rwy’n ostyngedig i wasanaethu fy nghymuned gyda’m cyd-gynghorwyr fel dw i wedi’i wneud erioed. CAERGYBI’N GYNTAF.”

https://www.facebook.com/vaughan.williams.7758/posts/127203871992287

Eglurhad pellach

Mewn sylwadau ar waelod y datganiad, mae Vaughan Williams, a gafodd ei drechu gan Aled ap Dafydd yn y ras i gynrychioli Ynys Môn yn San Steffan, yn dweud nad yw e wedi penderfynu eto a fydd e’n aros gyda Phlaid Cymru.

“Fe gawn weld,” meddai wrth ateb y cwestiwn hwnnw ar lif negeseuon.

Mewn sylw arall, mae’n dweud mai “hunan werth a pharch” sy’n gyfrifol am ei benderfyniad i fynd yn annibynnol.

Wrth ymateb i awgrym y gallai’r penderfyniad gael ei weld fel ymateb uniongyrchol i’r siom o golli yn y ras am yr ymgeisyddiaeth, mae’n dweud, “Geith pobl darllen be fynnon nhw”.

Mewn neges arall, mae’n dweud fod “Cymru yn fwy na’r Blaid”.

Wrth ymateb i neges arall sy’n cwestiynu’r penderfyniad i ddewis Aled ap Dafydd fel ymgeisydd “o’r tu allan”, dywed fod y sylwadau hynny “ar y trywydd iawn”, cyn ychwanegu y bydd yn aelod o Blaid Cymru hyd at y gynhadledd ac yna “fe gawn weld”.