Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn galw heddiw (dydd Sul, Medi 22) am undeb newydd rhwng gwledydd Prydain.

Daeth yr alwad yn ystod araith gerbron cynhadledd y Blaid Lafur yn Brighton, lle bu hefyd yn cyhoeddi y bydd Llafur Cymru’n ymgyrchu o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’n dweud bod Brexit a llywodraethau Ceidwadol yn San Steffan yn rhwygo’r undod a fu unwaith rhwng y pedair gwlad.

Mae’n galw am undeb sy’n seiliedig ar werthoedd Llafur, sef undod, cydraddoldeb a pharch.

‘Gwleidyddiaeth wenwynig’

“Mae Brexit wedi rhwygo ffabrig y pethau sy’n annwyl i ni – gan gynnwys y Deyrnas Unedig hithau,” meddai.

“Mae’r rhai sy’n ceisio Brexit wedi defnyddio – a chamddefnyddio – yr undeb at eu dibenion cul ac ideolegol eu hunain.

“Ein gyrru ni oddi wrth y partneriaethau rydyn ni wedi eu datblygu gyda’n cyfeillion Ewropeaidd dros gynifer o flynyddoedd.

“Er mwyn goroesi, rhaid mai Llafur – a Llafur yn unig – sy’n cyfleu gweledigaeth wahanol ar gyfer y rhai sydd wedi’u gyrru i ffwrdd gan wleidyddiaeth wenwynig rhaniadau ac anobaith.

“Rhaid mai ein tasg o dan Lywodraeth Lafur newydd y DU fydd adeiladu Deyrnas Unedig newydd, un sydd yn wirioneddol lwyddo i’w phedair rhan.

“Mae angen, ar draws yr ynysoedd hyn, bartneriaeth adeiladol sy’n cael ei hadeiladu ar y pethau sydd gennym yn gyffredin ac nid y rhagfarnau maen nhw’n dweud wrthym sy’n ein cadw ni ar wahân.

“Ein gwaith erioed oedd adeiladu cysylltiadau cyffredin rhwng pobol mewn gwaith, lle bynnag y bon nhw.”