Mae rhybudd am law trwm ledled Cymru drwy gydol dydd Sul.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai’r glaw achosi llifogydd mewn rhai ardaloedd.

Mae disgwyl hyd at 40mm o law mewn rhai llefydd hefyd, a hynny o fewn cyfnod o lai na chwech awr.

Mae’r rhybudd yn ei le hyd at 8 o’r gloch y nos, ac fe allai effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.