Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i ferch ifanc gael ei gweld yn cael ei rhoi mewn car yng Nglannau Dyfrdwy brynhawn ddoe (dydd Gwener, Medi 21).

Fe ddigwyddodd am oddeutu 3.55yp, a derbyniodd yr heddlu adroddiadau am y digwyddiad.

Mae lle i gredu bod y ferch 11 neu 12 oed wedi cael ei rhoi mewn car lliw arian.

Dywed yr heddlu y gall fod yn ddigwyddiad diniwed, ond fod rhaid iddyn nhw gynnal ymchwiliad, ond nad ydyn nhw wedi derbyn adroddiadau bod unrhyw ferch ar goll o’r ardal.

Roedd y ferch yn ei gwisg ysgol lliw piws, sgert ddu a sanau hyd at ei phengliniau.

Roedd ganddi wallt golau wedi’i glymu’n ôl.

Roedd y dyn yn ei 40au a chanddo wallt llwyd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.