Wrth i fyfyrwyr heidio am brifysgolion Cymru, mae un sefydliad addysg uwch yn benodol wedi ei brolio.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ei henwi’n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru ar gyfer 2020 yng nghanllaw The Times / The Sunday Times Good Unviersity Guide.

Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i Brifysgol Aberystwyth gael ei henwi’n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru, ac mae hi yn 45ed o ran prifysgolion gorau Prydain.

Ond mae’r brifysgol wedi ei dyfarnu yn yr ail safle drwy Brydain o ran ‘profiad myfyrwyr ac ‘ansawdd y dysgu’, sef dau i feini prawf geid The Times.

“Newyddion gwych”

Dywedodd Elizabeth Treasuer, is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Dyma newyddion gwych ac rwy’n falch iawn bod gwaith caled cydweithwyr ar draws y Brifysgol bellach wedi’i gydnabod am dair blynedd yn olynol.”

Ac mae Llywydd Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Dhanjeet Ramnatsing yn datgan: “Nid yw’n syndod o gwbl i’n myfyrwyr bod Prifysgol Aberystwyth wedi’i chydnabod fel Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru ar gyfer 2020. Rydym wedi profi trawsnewidiad amlwg yn Aberystwyth dros y blynyddoedd diwethaf.”