Mae un o chwaraewyr canol cae clwb pêl-droed y Bala yn brwydro canser.

Mae Daniel Gosset, 24, hefyd wedi chwarae i Fangor a’r Rhyl, yn dioddef o non-Hodgkin Lymphoma.

Mewn datganiad ar wefan CPD Y Bala, fe ddywedodd Daniel Gosset: “Mae’r gefnogaeth dw i wedi cael gan bobl ers darganfod ‘mod i’n sâl wedi bod yn anhygoel a dw i wir yn ddiolchgar i bawb sydd wedi bod mewn cysylltiad.”

Mae yna lawer iawn o gefnogaeth wedi bod i Daniel Gosset, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen, ar Trydar.

Dywed adran chwaraeon ei hen ysgol: “Brysia wella @DanielGosset a dymuniadau gorau i ti efo’r driniaeth. Mae pawb yn yr adran yn meddwl amdanat.”

Ac mae Aelod Cynulliad Arfon, Siân Gwenllïan, wedi trydar: “Brysia wella @DaielGosset. Meddwl amdanat. Pawb o tŷ ni yn cofio atat.”Brysia wella @DanielGosset <https://twitter.com/DanielGosset> a dymuniadau gorau i ti efo’r driniaeth. Mae pawb yn yr adran yn meddwl amdanat.Brysia wella @DanielGosset <https://twitter.com/DanielGosset> a dymuniadau gorau i ti efo’r driniaeth. Mae pawb yn yr adran yn meddwl amdanat.