Mae disgwyl i arweinydd UKIP drwy Brydain gadw draw o gynhadledd flynyddol ei blaid oherwydd bod cyn lleied o docynnau wedi cael eu gwerthu, yn ôl adroddiadau.

Bydd aelodau UKIP yn ymgynnull yng Nghasnewydd ar gyfer y digwyddiad deuddydd sy’n cychwyn heddiw (dydd Gwener, Medi 20).

Ond does dim disgwyl i Richard Braine, a gafodd ei ethol yn arweinydd fis diwethaf, fod yn bresennol.

Mae ffrae wedi datblygu o fewn y blaid ar ôl i’r arweinydd newydd alw ar bwyllgor cenedlaethol y blaid i ganslo’r gynhadledd.

Mae golwg360 yn deall bod cadeirydd UKIP, Kirstan Herriot, wedi ysgrifennu at aelodau yn beirniadu’r arweinydd, gan ddisgrifio ei benderfyniad i beidio â dod yn “sarhad”.

Fe ddaeth Richard Braine yn arweinydd ar UKIP ar ôl i’r blaid, o dan arweiniad Gerard Batten, golli pob un o’i seddi yn Senedd Ewrop yn yr etholiad ym mis Mai.

Y buddugwr mawr yn yr etholiad hwnnw oedd cyn-arweinydd UKIP, Nigel Farage, sydd bellach yn arwain y Blaid Brexit.