Fe fydd un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn absennol o’r Bae am “gwpwl o wythnosau” wrth iddi ddelio â salwch.

Mae Helen Mary Jones yn cynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac mae wedi dweud y bydd yn “cymryd amser” iddi wella o’r haint ar ei chlust.

“Dyma neges i roi gwybod i bawb nad ydw i’n hwylus,” meddai ar Twitter. “Dim byd difrifol. Mae gen i broblem â thu fewn fy nghlust o’r enw vestibular neuritis.

“Mae’n effeithio balans, ac yn achosi cyfog. Mi fydd yn gwella, ond mi fydd yn cymryd amser. Felly fydda’ i ddim yn gwaith am gwpwl o wythnosau.

“Wedi hynny wna’i drio dod yn ôl yn raddol.”

Dychwelyd i’r senedd-dai

Yn dilyn wyth wythnos o wyliau, dychwelodd Aelodau Cynulliad i’r Bae yn swyddogol ar dydd Mawrth (Medi 17).

Fydd Aelodau Seneddol ddim yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin tan Hydref 14 gan fod y senedd wedi ei ddiddymu dros dro gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson.