Mae Radio Cymru wedi gorfod ail-recordio’r gân y maen nhw’n ei defnyddio fel anthem yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd – a hynny oherwydd nad oedden nhw wedi clirio’r hawliau i greu fersiwn modern o ‘O, Gymru’ Rhys Jones.

Roedd yr orsaf wedi chwarae’r gân am y tro cyntaf ar raglen foreol Aled Hughes ddydd Llun, Medi 2 – a’r cyflwynydd wedi gwirioni cymaint arni nes iddo ei chwarae ddwywaith, yn syth ar ol ei gilydd rhwng 9 a 930yb.

Ond o fewn dim, fe gafodd y gân ei thynnu – er bod y rhaglen yn dal ar gael ar wasanaeth gwrando-eto BBC Sounds.

Mae golwg360 yn deall bod Caryl Parry Jones, merch y diweddar gyfansoddwr, Rhys Jones, wedi cysylltu â’r BBC i ddweud nad oedd hi’n gwybod dim am y fersiwn newydd, ac nad oedd neb wedi clirio’r hawl i ddefnyddio ‘O, Gymru’ fel sail i fersiwn newydd gan Gwilym, y grwp ifanc o Ynys Mȏn.

Roedd Caryl Parry Jones hefyd yn anhapus nad oedd modd deall y geiriau ar y fersiwn a gafodd ei recordio yn stiwdio’r cerddor Yws Gwynedd. Mae’r ail fersiwn wedi’i gynhyrchu yn stiwdio Rich Roberts ym Mhenrhyndeudraeth ac yn cynnwys geiriau ychwanegol i’r rhai a gyfansoddwyd yn wreiddiol gan Leslie Harries, cyn bwrw i’r cytgan enwg, “O, Gymru, o, Gymru, rhof iti fy mywyd; o Walia, o Walia, ti ydyw fy ngwynfyd…”

A’r wythnos hon, mae’r gân ar ei newydd wedd – ac sy’n dweud ei bod yn “tynnu ar ysbrydoliaeth” y gân gan Rhys Jones – yn drac yr wythnos ar Radio Cymru, yn cael ei chwarae deirgwaith y dydd – ar raglenni Aled Hughes (8.30-10), Ifan Jones Evans (2-5) a Geraint Lloyd (10-hanner nos).

Mae Caryl Parry Jones yn un o gyflwynwyr y Sioe Frecwast ar chwaer-orsaf Radio Cymru, sef Radio Cymru 2.