Mae cynllun i wella dannedd plant yng Nghymru wedi helpu i sicrhau 35,000 yn llai o lenwadau, 6,000 yn llai o achosion o dynnu dannedd a gostyngiad cyffredinol mewn pydredd dannedd.

Heddiw (dydd Iau, Medi 19) mae Cynllun Gwên yn ddeg oed, wedi iddo gael ei sefydlu’n benodol i dargedu plant mewn ardaloedd lle’r oedd y lefelau uchaf o bydredd dannedd.

Cyn i’r Cynllun Gwên gael ei lansio yn 2009, roedd gan hanner y plant pum mlwydd oed yng Nghymru bydredd dannedd ond, ers iddo gael ei lansio, mae hyn wedi gostwng i draean – ac mae pydredd dannedd yn effeithio ar tua 4,000 yn llai o blant pum mlwydd oed.

Mae’r rhaglenni hefyd wedi arwain at ostyngiad o 35% yn nifer y plant sy’n cael llawdriniaethau deintyddol o dan anesthetig cyffredinol yn ystod y chwe blynedd ddiwethaf. Mae hyn yn golygu bod 3,200 yn llai o blant y flwyddyn yn gorfod cael triniaeth i dynnu dannedd sydd wedi pydru.

Mae pydredd dannedd yn broblem benodol ymysg plant o ardaloedd tlawd. Mae’r arolwg diweddaraf  o iechyd deintyddol Cymru yn dangos gostyngiad o 13.4% yng nghyfran y plant â phydredd dannedd, gyda gostyngiad o 15% mewn ardaloedd difreintiedig.

Bob blwyddyn, mae dros 90,000 o blant mewn 1,200 o ysgolion a meithrinfeydd yn cymryd rhan mewn cynllun brwsio dannedd a gynhelir gan y Cynllun Gwên.