Mae cwmni cynhyrchu ceir yn addo creu hyd at 500 o swyddi newydd ar safle ar bwys ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Fe fydd INEOS Automotive yn adeiladu ffatri gynhyrchu a chydosod newydd arbennig, ym Mharc Busnes Brocastell i gynhyrchu’r cerbyd Grenadier 4×4 newydd.

I gael lle ar gyfer y ffatri newydd, mae’r cwmni’n prynu 14 erw o dir oddi wrth Lywodraeth Cymru am bris y farchnad.  Mae’r gwaith i ddatblygu seilwaith y safle eisoes wedi dechrau gyda’r gobaith y gellir dechrau cynhyrchu’r cerbyd newydd mor fuan â dechrau 2021.

Bydd lle yn yr adeilad newydd a rhannau eraill o Barc Busnes Brocastell i’r busnes dyfu a chyflogi rhagor o weithwyr.

Mae INEOS Automotive eisoes yn trafod â dau gwmni cyflenwi cydrannau o Gymru i’w helpu â’i waith a gallai hynny fod yn hwb arall i economi Cymru.