Mae Cymro Cymraeg ymhlith yr 11 ustus a fydd yn ystyried dwy her gyfreithiol yn y Goruchaf Lys yn erbyn penderfyniad Boris Johnson i ohirio’r Senedd.

Fe gafodd yr Arglwydd [David] Lloyd-Jones, 67, ei eni a’i fagu ym Mhontypridd, cyn mynd ymlaen i astudio’r gyfraith yng Ngholeg Downing, Caergrawnt.

Daeth yn aelod o’r Uchel Lys yn 2005, gan dreulio’r cyfnod rhwng 2008 a 2011 yn farnwr ar gylch llysoedd Cymru.

Cafodd ei benodi i’r Llys Apêl yn 2012, cyn dod yn Ustus yn y Goruchaf Lys yn 2017 – y Cymro cyntaf i dderbyn y swydd.

Yr ustusiaid

Bydd yr Arglwydd Lloyd-Jones a’i gyd-ustusiaid yn ystyried y ddwy her gyfreithiol ynghylch gohirio’r Senedd yn ystod y tri diwrnod nesaf, gan ddechrau heddiw (dydd Mawrth, Medi 17).

Yr ustusiaid eraill yw:

o Yr Arglwyddes Hale

o Yr Arglwydd Reed

o Yr Arglwydd Kerr

o Yr Arglwydd Wilson

o Yr Arglwydd Carnwath

o Yr Arglwydd Hodge

o Yr Arglwyddes Black

o Yr Arglwyddes Arden

o Yr Arglwydd Kitchin

o Yr Arglwydd Sales

Yr heriau

Mae un her wedi cael ei chyflwyno gan y ddynes fusnes a’r ymgyrchydd, Gina Miller, ac yn cael ei chefnogi gan y cyn-Brif Weinidog, John Major, y Farwnes Chakrabarti a llywodraethau’r Alban a Chymru.

Grŵp trawsbleidiol o tua 75 o Aelodau Seneddol sy’n gyfrifol am yr ail her.

Yn ôl Boris Johnson, fe benderfynodd ohirio’r Senedd er mwyn galluogi’r Llywodraeth i amlinellu ei hagenda ddeddfwriaethol yn Araith y Frenhines ar Hydref 14.

Ond mae’r rheiny sy’n herio’r penderfyniad hwnnw yn credu mai ymgais i atal unrhyw drafodaeth bellach ar Brexit – y mae disgwyl iddo ddigwydd ar Hydref 31 – oedd bwriad y gohirio.