Mae 41% o bobol Cymru wedi teimlo’n unig y mis hwn, yn ôl arolwg newydd gan Sefydliad Prydeinig y Galon.

Mae’r arolwg yn rhan o ymgyrch sy’n annog pobol i wirfoddoli ac i roi o’u hamser er mwyn gwella’u bywydau cymdeithasol a’u hiechyd, fel y byddan nhw’n teimlo’n llai unig yn y pen draw.

Mae’r arolwg yn nodi bod 36% o’r Cymry am wella eu bywydau cymdeithasol, a bod 52% yn awyddus i wella’u hiechyd.

Ac mae’r Sefydliad yn dweud bod pobol sy’n gwirfoddoli gyda nhw’n gweld y manteision o fewn cyfnod byr.

Dywed 45% o wirfoddolwyr y Sefydliad fod eu rolau gwirfoddol wedi eu helpu nhw i oresgyn unigrwydd, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw rhwng 25 a 34 oed, yn groes i’r disgwyl mai dim ond pobol oedrannus sy’n teimlo’n unig.

Dywed 68% fod gwirfoddoli wedi eu helpu hefyd i wella’u hiechyd meddwl.

Yn ôl yr arolwg, mae 25% o bobol rhwng 25 a 34 oed yn rhoi o’u hamser i helpu elusennau neu brosiectau cymunedol, o’i gymharu ag un o bob wyth o bobol rhwng 45 a 54 oed, ac un o bob naw o bobol 55 oed neu hŷn.

Y rhesymau

Wrth nodi’r rhesymau dros wirfoddoli, dywed 40% o bobol rhwng 16 a 24 oed eu bod nhw am ddysgu sgiliau newydd – dim ond 18% o bobol dros 55 oed sy’n nodi’r un rheswm.

Dywed 49% o bobol dros 55 oed eu bod nhw’n awyddus i wneud gwahaniaeth, gyda 34% o bobol rhwng 16 a 24 oed yn dweud hynny hefyd.

“Mae gan wirfoddoli enw drwg ac mae angen i ni fynd i’r afael â’r broblem honno ar frys,” meddai Linda Fenn, pennaeth gwirfoddoli Sefydliad Prydeinig y Galon.

“Mae llawer gormod o bobol yn cymryd mai rhywbeth i bobol hŷn yw e, ac na fyddai o fudd iddyn nhw.

“Ond allai hynny ddim bod ymhellach oddi wrth y gwirionedd.

“Mae ein hadroddiad yn dangos fod gan bobol ifanc gymaint i elwa arno wrth ymrwymo, gan eu helpu nhw i ddysgu pethau newydd, gwella’u hiechyd a lles, a gwneud ffrindiau bore oes.

“Ymhlith ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd iechyd meddwl da, gobeithio y bydd y canlyniadau hyn yn annog pobol i roi cynnig ar wirfoddoli.”