Mae Jane Dodds yn galw am Deyrnas Unedig ffederal sy’n cadw’r pedair gwlad o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fu arweinydd y blaid yng Nghymru’n annerch cynhadledd y blaid Brydeinig yn Bournemouth heddiw (dydd Sul, Medi 15), ychydig dros fis ers iddi gael ei hethol yn Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed.

Yn ystod ei haraith, dywedodd ei bod hi am weld “partneriaeth hafal” rhwng gwledydd Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd ac o fewn Prydain ffederal.

“Rwy’n sefyll ger eich bron heddiw yn Gymraes falch,” meddai.

“Cymraes falch sy’n gredwr mawr mewn datganoli.

“Rwy am weld datganoli nid yn unig yn ymwneud â gwledydd a rhanbarthau, ond llywodraeth leol yn ganolbwynt iddo hefyd, gan gadw grym mor agos â phosib at ein cymunedau.

“Rwy hefyd yn falch o fod yn Brydeinig ac yn Ewropeaidd.

“Yr holl hunaniaethau hyn sy’n fy ngwneud i yr hyn ydw i heddiw, ac maen nhw’n ein gyrru ni oll yn ein blaenau i sicrhau ein bod ni’n gweithio’n well efo’n gilydd.

“Yn yr un modd ag y mae yna bethau yr ydyn ni’n eu gwneud yn well o fewn yr Undeb Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig, rydym yn gwneud pethau lawer gwell efo’n gilydd.”

Y Ceidwadwyr yn ’tanseilio yr Undeb’

Mae hi’n dweud bod ymdriniaeth y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn “tanseilio’r union Undeb y maen nhw’n honni eu bod yn ei gwerthfawrogi gymaint”.

Mae hi’n cyhuddo Llywodraeth Prydain o “wfftio Cytundeb Gwener y Groglith” ac o “anwybyddu setliadau datganoli Cymru a’r Alban ac awdurdod y gweinyddiaethau datganoledig hynny”.

Mae hynny, meddai, yn cynyddu’r galw am annibyniaeth yng Nghymru a’r Alban, lle bu nifer o orymdeithiau dros y misoedd diwethaf yn galw am dorri’n rhydd o San Steffan.

“Mae’r rhain yn parhau i dyfu oherwydd fod pobol wedi diflasu efo’r un hen addewidion yn cael eu torri.

“Mae pobol wedi diflasu efo gwleidyddiaeth maen nhw’n teimlo nad yw’n eu cynrychioli nhw nac yn gwerthfawrogi eu hunaniaeth.

“Mae rhai pleidiau, hyd yn oed, yn ceisio defnyddio rhwyg Brexit fel ffordd o danseilio’r cymdeithasau hynny, ac yn defnyddio balchder pobol yn eu gwlad fel arf wleidyddol.

“Gynhadledd, mae hyn yn annerbyniol.”

Undod – ac Undeb

Yn ôl Jane Dodds, “mae modd ymfalchïo yn eich gwlad heb geisio tanseilio’r gwerthoedd hynny a rhannu cymunedau”.

Mae’n dweud bod cymunedau ledled y Deyrnas Unedig “yn gynyddol ranedig ac wedi’u polareiddio”.

Wrth amlinellu gwledigaeth ei phlaid, dywed mai’r “Democratiaid Rhyddfrydol yw’r unig blaid a fydd yn amddiffyn Cymru ac yn sicrhau ein bod ni’n rhan o’r Undeb ac yn rhan o Ewrop”.

Serch hynny, mae’n dweud nad yw’r “status quo yn ddigon”, a bod gan y blaid “frwydr ar ein dwylo” er mwyn sicrhau bod “yr Undeb wrth galon popeth rydym yn ei wneud”.

Mae hi’n dweud bod y blaid yn ymrwymo i “opsiynau ar gyfer San Steffan” ond hefyd “diwygio sylfaenol o strwythur y Deyrnas Unedig”, sef ffederaleiddio.

“Rwy am i ni hybu Deyrnas Unedig ffederal, teulu o wledydd sy’n gwbl gyfartal, gan sicrhau bod gan bob rhan o’r Undeb lais sy’n ystyrlon yn nhermau datganoli.

“Rydym wedi bod yn trafod hyn ers degawdau, y syniad o sicrhau bod yr Undeb wrth galon popeth ond fod gennym lewyrch sy’n cael ei rannu ledled y Deyrnas Unedig.

“Nawr, mae’n bryd i ni fod y blaid sy’n dewis safbwynt ffederaleiddio.”