Mae Gareth Thomas, cyn-gapten tîm rygbi Cymru, wedi datgelu ei fod yn HIV positif.

Mae lle i gredu mai dyma’r tro cyntaf i rywun o fyd y campau gyhoeddi ei fod yn byw â’r cyflwr.

Fe gyhoeddodd yn 2009 ei fod yn hoyw.

Mae’n dweud iddo ystyried lladd ei hun ar ôl cael diagnosis, a’i fod e’n destun “blacmêl” pan wnaeth unigolion ddarganfod ei fod yn byw â’r cyflwr.

“Dw i wedi bod yn byw gyda’r gyfrinach hon ers blynyddoedd,” meddai wrth y Sunday Mirror.

“Ro’n i’n teimlo cywilydd ac mae cadw’r fath gyfrinach fawr wedi gadael ei ôl.

“Ro’n i mewn lle tywyll, yn teimlo fel lladd fy hun. Fe wnes i feddwl am yrru dros ddibyn clogwyn.

“I fi, roedd eisiau marw yn beth naturiol i feddwl amdano, ac roedd yn teimlo fel y ffordd symlaf allan, ond rhaid i chi wynebu pethau.”

‘Torri i lawr’

Mae’n dweud iddo “dorri i lawr” wrth dderbyn y newyddion gan feddyg.

“Es i am brawf iechyd rhywiol cyffredin mewn clinig preifat yng Nghaerdydd,” meddai.

“Do’n i ddim yn teimlo’n sâl ac ro’n i’n meddwl fod popeth yn mynd i fod yn iawn.

“Pan ddywedodd [y meddyg] y geiriau hynny, wnes i feddwl yn syth fy mod i’n mynd i farw.

“Ro’n i’n teimlo fel pe bai trên cyflym yn fy nharo i ar gyflymdra o 300 milltir yr awr.

“Yna, ro’n i’n meddwl ‘pa mor hir sydd gen i ar ôl?'”

Triniaeth

Mae Gareth Thomas bellach yn cymryd tabledi bob dydd ar gyfer y cyflwr, a does dim modd iddo ei drosglwyddo i rywun arall erbyn hyn.

Mae’n dweud nad yw ei gymar Stephen yn byw â’r cyflwr, a bod ei rieni wedi bod yn gefnogol iawn pan ddywedodd e wrthyn nhw.

Ychwanega ei fod e wedi rhannu ei stori er mwyn dileu’r stigma ynghylch HIV.