Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried lles anifeiliaid fel rhan o’u strategaeth ar gyfer llifogydd ac erydu’r arfordir, yn ôl RSPCA Cymru.

Mae’r elusen yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod cymunedau’n barod i warchod anifeiliaid mewn argyfwng.

Mae bron i hanner teuluoedd Cymru’n berchen ar anifail, ac mae tystiolaeth yn awgrymu na fyddai llawer ohonyn nhw’n fodlon gadael eu cartrefi heb eu hanifeiliaid pe bai argyfwng yn codi, oni bai bod modd sicrhau eu bod nhw’n ddiogel.

Mae RSPCA Cymru’n galw am roi cyngor i berchnogion anifeiliaid mewn argyfwng.

“Wrth i Gymru chwilio am ddull newydd o ymdrin â’r risg o lifogydd ac erydu’r arfordir, mae yma gyfle gwych i dynnu sylw at bwysigrwydd ystyried anifeiliaid mewn unrhyw waith cynllunio ar gyfer argyfwng neu gynlluniau wrth gefn,” meddai llefarydd ar ran yr elusen.

“Drwy helpu perchnogion anifeiliaid i fod yn barod, neu i fod ynghlwm wrth unrhyw fusnesau sy’n gysylltiedig ag anifeiliaid, gall Llywodraeth Cymru sicrhau diogelwch y cymunedau hynny sy’n wynebu’r risg o lifogydd neu erydu’r arfordir.

“Gall colli anifeiliaid olygu colli cefnogaeth emosiynol neu arian.

“Wrth ddarparu cyngor ac arweiniad clir ar sut i ofalu am anifeiliaid mewn achosion o lifogydd neu erydu’r arfordir, gallwn leihau’r risg a chynyddu diogelwch pobol ac anifeiliaid o fewn y cymunedau hyn ledled Cymru.”