Mae bron i 170,000 o driniaethau meddygol yng Nghymru wedi cael eu gohirio yn y pedair blynedd diwethaf, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae’r blaid yn honni bod nifer y triniaethau a gafodd eu gohirio yn y cyfnod 2018/19 wedi cynyddu 7% er 2015/16 – sy’n “gynnydd syfrdanol,” medden nhw.

Fe gawson nhw’r ffigyrau ar ôl cyflwyno ceisiadau am ryddid gwybodaeth i saith bwrdd iechyd yng Nghymru.

Yn y cyfnod 2018/19, cafodd cyfanswm o 42,483 o driniaethau eu gohirio ledled Cymru. Yn 2015/16, y cyfanswm oedd 39,741.

Dyw’r ffigyrau ddim yn cynnwys Bwrdd Iechyd Hywel Dda, gan na dderbyniodd y Ceidwadwyr Cymreig ymateb i’w cais.

Beirniadu Llywodraeth Cymru

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, cafwyd cynnydd o 31% yn nifer y triniaethau a gafodd eu gohirio gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr – y cynnydd mwyaf yng Nghymru.

Y nesaf ato wedyn oedd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, lle cafwyd cynnydd o 29% er 2015/16.

“Am yn rhy hir mae pobol wedi gorfod wynebu oedi,” meddai Angela Burns, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae’n syfrdanol mai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy’n cael ei reoli gan Lywodraeth Lafur Cymru, yw’r perfformiwr gwaethaf, gyda chynnydd enfawr yn nifer y triniaethau sydd wedi cael eu gohirio.

“Mae pobol Cymru yn haeddu gwell.”

Aildrefnu dyddiad “cyn gynted â phosib”

Mewn ymateb, dywed Llywodraeth Cymru bod disgwyl i fyrddau iechyd aildrefnu triniaethau “cyn gynted â phosib” os ydyn nhw’n cael eu gohirio.

“Mae’n bwysig nodi nad yw pob gohiriad yn golygu bod slot o fewn y theatr yn cael ei golli,” meddai llefarydd.

“Yn amlach na pheidio, mae gan fyrddau iechyd gleifion eraill ar restr aros a all gael eu trin yr un pryd.”