Heb geiniog gan Lywodraeth Cymru, mae cyflwynydd teledu o Sir Gaerfyrddin wedi bwrw ati i wireddu targed ‘Y Miliwn’ ar liwt ei hun.

Mae Ameer Davies-Rana yn bennaf adnabyddus am gyflwyno eitemau dan yr enw ‘Sgrameer’ ar raglen Hansh – platfform digidol S4C – a bellach mae wedi dechrau ar daith i hybu’r Gymraeg ledled y wlad.

Hyd yma mae wedi ymweld â 47 ysgol yn Sir Benfro a “thipyn o Gaerdydd”, ac yn awr mae’n canolbwyntio ar ysgolion Sir Gaerfyrddin gyda’r gobaith o ymweld â’r gogledd yn fuan.

Amcan Llywodraeth Cymru yw sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond ym marn y cyflwynydd o Rydaman dyw’r targed ddim yn ddigon uchelgeisiol.

“Fi’n credu bod 2050 yn jôc!” meddai Ameer Davies-Rana wrth golwg360. “Bydda’ i’n hen erbyn hynny. Does dim amser i’w wastraffu. Mae mor syml.

“Fi’n credu bod tua 800,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn nawr. Dyw e ddim yn bell i fynd. Rydym ni eisiau i bawb gael diddordeb, a bydd e’n cruise neis.

“Fi’n credu gallwn ni wneud e’n lot cloiach na 2050… Mae’n swnio fel bod Llywodraeth Cymru jest eisiau chillo a gadael e fynd! Ond ‘na’ medde fi!”

Galw mawr

Mae Ameer Davies-Rana yn trefnu’r ymweliadau ei hun ac yn cael tâl gan yr ysgolion, a’i nod yn y pen draw yw denu nawdd gan Lywodraeth Cymru.

Fe gafodd y syniad o fynd i ysgolion i hybu’r Gymraeg wedi iddo gymryd rhan mewn “wythnos ffair iaith” yn Ysgol Caer Elen, yn Hwlffordd.

“O fynna ges i shwt gymaint o ddiddordeb gan bobol eraill, roedd gymaint o bookings gyda fi am bron hanner blwyddyn nesaf, wnes i feddwl bod yn rhaid i fi droi hwn mewn i fusnes i’n hunan!” meddai.

“Mae yna demand nawr!”

Be’ mae Sgrameer yn gynnig?

Mae’r cyflwynydd wedi ymweld ag ysgolion gan fwyaf hyd yma, ac yn ystod ei ymweliadau mae’n gwneud “cyflwyniadau ar bwysigrwydd yr iaith Gymraeg”.

Mae gweithgareddau a sesiynau dysgu blogio ynghlwm â hyn oll, a’i brif nod yw i wneud yr iaith yn “cŵl” i bobol ifanc.

“Dyna’r prif beth am y cyflwyniadau yma,” meddai.

“Dyw e ddim fel cyflwyniadau stereotypical r’ych chi siŵr o fod wedi gweld mewn ysgol yn eich amser chi gyda phobol hen yn siarad am yr hanes a’r diwylliant – nonsens does neb yn becso amdano! Fi’n cael lot o hwyl gyda fe. Cwis cŵl, ffeithiau difyr a fideos.”

Gwyliwch un o fideos Sgrammer yma…