Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn 76 oed y cafwyd hyd i’w gorff mewn ty yng Nghwmran ddydd Mawrth (Medi 10).

Roedd yr heddlu wedi cael eu galw i’r ty yn Heol Cydweli, Cwmbran fore dydd Mawrth lle daethon  nhw o hyd i Thomas Gallagher.

Mae dyn 55 oed o ardal Cwmbran, a gafodd ei arestio ar y safle, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio.

Fe fydd yn mynd gerbron Llys y Goron Caerdydd yfory (dydd Gwener, Medi 13).