Mae teulu dyn a fu farw mewn damwain beic cwad ger cronfa safle dur Tata ym Margam, Port Talbot, wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Adam Llewellyn, 41, o Ben-y-bont ar Ogwr yn dilyn digwyddiad yn ymwneud a beic cwad ar dir Cronfa Eglwys Nunydd ym Margam dydd Iau, Medi 5. Mae’r gronfa yn darparu dwr i’r gweithfeydd dur. Roedd Adam Llewellyn yn gontractwr yn ffatri Dur Tata.

Dywedodd ei deulu ei fod yn “wr, tad a mab onest, ffyddlon a gweithgar.

“Roedd yn gawr i’w blant, yn hael gyda’i amser a bob amser yn rhoi i eraill.”

Ychwanegodd y teulu mewn datganiad ei fod yn “uchel ei barch yn y gymuned leol a’r gymuned ffermio.”

Mae ymchwiliad ar y cyd yn cael ei gynnal gan Heddlu De Cymru a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch i amgylchiadau’r digwyddiad.