Mi all diwydiant pysgota Cymru wynebu “goblygiadau dramatig” yn sgil Brexit heb gytundeb, yn ôl Cadeirydd Cymdeithas Pysgotwyr Cymru.

Daw sylw Jim Evans yn dilyn cyhoeddiad dogfennau ‘Ymgyrch Yellowhammer’ – asesiadau Brexit caled Llywodraeth San Steffan sy’n darogan “rhwystredigaeth” yn y sector bysgota.

Yn ôl y dogfennau, ar ddiwrnod cyntaf Brexit heb fargen, mae’n bosib y bydd hyd at 282 llong Ewropeaidd yn nyfroedd y Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon – gyda  40 o’r rheiny yng Nghymru.

Mae Jim Evans yn dweud bod “pob dim yn bryder” i’r diwydiant yng Nghymru, ac er ei fod yn gofidio am y llongau anghyfreithlon, mae’n poeni’n bennaf am golli cwsmeriaid Ewropeaidd.

“Y broblem mawr i ni yw gan fod 90% o’n pysgodfeydd yn casglu pysgod cregyn, a gan fod 90% o hynny’n cael ei forio i Ewrop, rydym yn ddibynnol iawn ar y marchnadoedd yna,” meddai wrth golwg360.

“Wrth gwrs byddai hynny’n cael ei effeithio ar ddiwrnod cyntaf [Brexit]. Os ydy’r farchnad yn diflannu dros nos, a bod hynny ond yn para am dair wythnos, mi fydd goblygiadau dramatig i hynny.”

“Adnoddau Cymreig”

Cafodd Llywodraeth San Steffan ei gorfodi i gyhoeddi ‘Ymgyrch Yellowhammer’ yn dilyn pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin, ac mae’r dogfennau yn darogan “gwrthdaro rhwng llongau pysgota”.

O ran y posibiliad o longau tramor yn pysgota yn nyfroedd Cymru yn anghyfreithlon, mae Jim Evans yn llai gofidus. Er hynny mae’n pryderu rhywfaint am yr hyn all ddigwydd.

“Mae [llongau pysgota] cael eu rheoli ar hyn o bryd dan [drefniannau] y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin,” meddai.

“Os nad yw’r rheiny yn bodoli, maen annhebygol, ond mi all [llongau Ewropeaidd] gymryd mantais o’r sefyllfa.

“Ac yn y sefyllfa yna byddan nhw’n tynnu oddi ar adnoddau Cymreig ar gyfer cenedlaethau o bysgotwyr Cymreig y dyfodol.”