Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd sy’n cefnogi ysgolion i ymdrin â materion fel hunanladdiad a hunan-niweidio.

Mae’r canllaw, sy’n cael ei lansio ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, wedi ei anelu at athrawon a gweithwyr proffesiynol sy’n dod i gysylltiad â phobol ifanc yn rheolaidd.

Mae’n canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar pan fo meddyliau tywyll am naill ai hunanladdiad neu hunan-niweidio yn codi.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y canllaw’n darparu “ffynhonnell gyflym a hygyrch ar gyfer egwyddorion arfer gorau”. Bydd hefyd yn cyfeirio at “ffynonellau cymorth a chyngor eraill”, medden nhw wedyn.

‘Annog trafodaethau am iechyd meddwl’

Cafodd y canllaw ei greu mewn cydweithrediad rhwng y Grŵp Cynghori Cenedlaethol, pobol ifanc, Mind-Ed a sefydliadau eraill ym myd addysg a’r sector iechyd.

“Mae unrhyw hunanladdiad yn un yn ormod, yn drychineb sy’n effeithio ar deulu’r unigolyn, ei ffrindiau a’r gymuned gyfan,” meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i annog trafodaethau agored â phlant a phobol ifanc am eu hiechyd meddwl.

“Bydd y canllaw newydd hwn yn helpu staff sydd â chysylltiad uniongyrchol â phobol ifanc i ddarparu cymorth effeithiol ac i gael y sgyrsiau hynny, sy’n aml yn anodd, a allai achub bywyd yn y pen draw.”

Croeso brwd

Mae’r canllaw wedi cael ei groesawu gan yr elusen, Samariaid Cymru, sydd â gobeithion mawr amdano fel rhan o’r cwricwlwm addysg newydd.

“Rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi’r hyder i staff addysgu estyn allan at blant a phobol ifanc fel ffordd hanfodol o atal ac ymyrryd yn gynnar,” meddai Sarah Stone, Cyfarwyddwr Samariaid Cymru.

“Rydym yn credu bod y canllaw hwn yn rhan o botensial ac uchelgais ehangach y cwricwlwm newydd ac y dylid ei ystyried fel rhan o’r dull gweithredu ysgol gyfan hwnnw er mwyn sicrhau ei fod mor effeithiol a phosib.

“Mae’r Samariaid yn bodoli er mwyn lleihau achosion o hunanladdiad ac felly rydym yn croesawu unrhyw fesur sy’n gwella sgiliau staff i adnabod ac ymyrryd â meddyliau am gyflawni hunan-niwed a hunanladdiad; dwy broblem iechyd cyhoeddus fawr yng Nghymru.”