Fe gafwyd perfformiad unigryw yn Nhŷ’r Cyffredin yn yr oriau mân y bore yma (dydd Mawrth, Medi 10) pan ddechreuodd Aelodau Seneddol Cymreig ganu ‘Calon Lân’.

Fe wrthododd nifer o aelodau’r gwrthbleidiau fod yn rhan o’r seremoni prorogio a gynhaliwyd yn Nhŷ’r Arglwyddi ar ddiwedd sesiwn stormus yn San Steffan ddoe.

Mae’r gwrthbleidiau yn ystyried y penderfyniad i gau’r Senedd am gyfnod o fwy na mis – tan Araith y Frenhines ar Hydref 14 – yn ymgais gan y Llywodraeth i osgoi unrhyw ddadlau pellach ar Brexit.

Mewn clip fideo a gafodd ei ffilmio gan yr aelod SNP, Hannah Bardell, mae modd gweld Jonathan Edwards a Ben Lake o Blaid Cymru, yn ogystal ag Albert Owen, Tonia Antioniazzi a Stephen Doughty o’r Blaid Lafur, yn ei morio hi – mewn harmoni.

Fe gafwyd hefyd berfformiadau o’r ‘Red Flag’ a ‘Jerusalem’ gan aelodau Llafur eraill a ‘Scots Wha Hae’ gan aelodau’r SNP. Ac mae’n debyg roedd rhai’n mwmian tiwn ‘Ode to Joy’ ar un adeg – anthem yr Undeb Ewropeaidd.

Ychydig cyn hynny, fe wnaeth griw o Aelodau Seneddol Llafur ddal arwyddion yn dwyn y gair “distewi”, ac mae’n ymddangos bod rhai wedi ceisio atal y Llefarydd rhag gadael ei sedd.