Mae dyn o Abertileri wedi cael ei wahardd am oes rhag cadw anifeiliaid ar ôl iddo fethu â gofalu am nifer mawr o geffylau.

Ymddangosodd Edward George Bath, 58, gerbron Llys Ynadon Casnewydd yr wythnos ddiwethaf (Medi 3) i dderbyn ei ddedfryd ar ôl pledio’n euog i bedair trosedd yn ymwneud â lles anifeiliaid.

Derbyniodd deunaw wythnos o garchar am bob trosedd unigol, ond maen nhw wedi cael eu gohirio am ddeunaw mis.

Diffyg gofal

Cafodd y drwgweithredwr ei ddwyn o flaen ei well ar ôl i’r RSPCA ddod o hyd i 42 o geffylau yn dioddef ar ei fferm ar Ffordd Hen Flaenau yn Abertileri yn ystod dau ymweliad ar ddechrau’r flwyddyn.

Bu’n rhaid i ddau geffyl gael eu rhoi i farwolaeth oherwydd eu bod mewn cyflwr mor wael, meddai’r RSPCA, a ymwelodd â’r ffarm am y tro cyntaf ym mis Ionawr, a’r eilwaith ym mis Mawrth.

Mae gweddill y ceffylau bellach yn nwylo’r elusen anifeiliaid.

Mae Edward George Bath wedi cael ei orchymyn i dalu £360 o gostau, yn ogystal â chyfraniad tuag at ffioedd y milfeddyg – sy’n £1,200.

Bydd yn rhaid iddo hefyd dalu £115 mewn gordal dioddefwr a threulio 10 diwrnod yn cyflawni gweithgaredd adsefydlu.