Mae bachgen 12 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda char yng Nghaerffili.

Roedd car Vauxhall Astra lliw glas mewn gwrthdrawiad a beic ar yr A4049 rhwng Aberbargoed a Phengam tua 9.30yh nos Sadwrn (Medi 7).

Roedd dau fachgen 12 oed ar y beic adeg y ddamwain.

Cafodd un o’r bechgyn ei gludo i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful cyn cael ei drosglwyddo’n ddiweddarach i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd lle bu farw o’i anafiadau.

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi mai Cole Roper o Gefn Fforest oedd enw’r bachgen fu farw. Mae swyddogion cyswllt teulu arbenigol yn rhoi cefnogaeth i’w deulu.

Cafodd y bachgen arall driniaeth yn yr ysbyty ac mae bellach wedi cael mynd adre.

Ni chafodd gyrrwr y car ei anafu.

Mae’r heddlu’n apelio ar yrrwyr a oedd yn yr ardal ar y pryd i edrych ar unrhyw luniau ’dashcam’ am wybodaeth bellach a allai helpu’r heddlu gyda’u hymholiadau.

Dylai unrhyw un sydd a gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.