Mae gyrrwr beic modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Rhuthun ddydd Sul (Medi 8).

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A525 yn Nant y Garth ger Rhuthun tua 1.10yp ddydd Sul.

Roedd y beic modur wedi gwrthdaro a dyrnwr medi a bu farw’r gyrrwr yn y fan a’r lle.

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am lygad dystion i’r digwyddiad wrth ymyl Coleg Llysfasi. Dylai unrhyw un sydd a gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnol X131545.