Mark Williams AS
Mae Cynhadledd Hydref y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi pleidleisio o fwyafrif llethol i sicrhau cyllid i S4C ac o blaid annibyniaeth y sianel.

Roedd y cynnig basiwyd yn y gynhadledd yn Wrecsam heddiw hefyd yn dweud y dylid sicrhau’r annibyniaeth trwy siarter a chaniatau i’r sianel weithio mewn partnerieth efo’r BBC nid fel rhan o’r Gorfforaeth.

Dywedodd Aelod Seneddol Ceredigion, Mark Williams ei fod yn tu hwnt o falch bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dangos cymaint o gefnogaeth i ddarlledu trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’n holl bwysig bod S4C yn parhau i gael sicrwydd cyllidol er mwyn i’r sianel weithredu yn annibynnol o safbwynt golygyddol a gweithredol. Mae’n sianel ar gyfer pobl Cymru ac yn hanfodol i’n diwylliant gan chwarae rhan bwysig yn hybu’r iaith Gymraeg.” meddai