Mae llanc 17 oed wedi cael ei gyhuddo o drywanu dyn 49 oed ym Mryste.

Aeth y llanc i orsaf yr heddlu yng Nghaerdydd, lle cafodd ei gyhuddo o geisio niweidio’n fwriadol ac o fod ag arf yn ei feddiant mewn lle cyhoeddus.

Cafodd Selthavas Murugesu ei drywanu mewn siop yn ardal Horfield ar gyrion Bryste fis diwethaf.

Mae’r llanc wedi’i gludo i’r ddalfa yn ardal Heddlu Avon a Gwlad yr Haf yn dilyn apêl ar draws gwledydd Prydain i ddod o hyd iddo.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn mynd gerbron ynadon Bryste yfory (dydd Llun, Medi 9).