Leighton Andrews
Bydd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru Leighton Andrews yn amlinellu gweledigaeth y llywodraeth o safbwynt cyflawni targedau’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymreg pan fydd yn annerch cynhadledd flynyddol y mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn eu cynhadledd flynyddol yn Abertawe y prynhawn yma.

Cafodd y strategaeth ei lansio yn 2010 ac fe fydd y cyfrifoldebau cynllunio a monitro datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yn cael eu trosgwlyddo yn ganolog i’r Llywodraeth o Ebrill 2012 ymlaen.

Dywedodd Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG bod araith Leighton Andrews felly yn briodol ac amserol.

“Mae’n iawn bod ffocws y gynhadledd ar adolygu’r cynnydd a gafwyd hyd yma ynghyd â thrafod goblygiadau’r newidiadau hyn ar ddatblygiadau’r dyfodol.”

Mae Comisiynydd Plant Cymru Keith Towler hefyd yn annerch y gynhadledd

Bydd RhAG hefyd yn rhyddhau dogfen arbennig a gynhyrchwyd er mwyn cyflwyno eu datganiad cenhadaeth ynghyd â chrynhoi gweithgarwch y mudiad ledled y wlad dros y blynyddoedd diwethaf.