Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad merch 15 oed o ardal Penlan yn Abertawe.

Does neb wedi gweld Sophie Estepanian ers iddi fod yn Llyfrgell Penlan am 3.43 brynhawn dydd Gwener (Medi 6).

Yn ôl yr heddlu, maen nhw a’i theulu’n gofidio amdani.

Mae hi’n 4’11 ac o gorffolaeth fawr.

Mae ganddi wallt coch a thwll yn ei thrwyn.

Pan gafodd hi ei gweld ddiwethaf, roedd hi’n gwisgo jîns, esgidiau a thop du ac roedd hi’n cario bag du.

Mae’n bosib ei bod hi wedi teithio i Gaerdydd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.