Mae teulu dyn sydd ar goll o ardal Maesteg yn apelio o’r newydd am wybodaeth ar ei ben-blwydd yn 64 oed.

Does neb wedi gweld Keith Price ers 10 o’r gloch ar fore dydd Mawrth, Awst 13.

Mae ganddo fe glefyd y siwgr.

“Mae Keith yn 64 oed heddiw ac fe ddylai fod yn dathlu ei ben-blwydd gyda’i deulu a’i ffrindiau ond yn hytrach, maen nhw’n pendroni ynghylch ble mae e a beth sydd wedi digwydd iddo fe.

“Rydym yn parhau i ymchwilio i’w ddiflaniad ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth ynghylch ble mae e i gysylltu â Heddlu’r De.”

Neges y teulu

Mae’r teulu wedi apelio’n uniongyrchol ar iddo fe ddod adref.

“Keith, rydym yn dy garu ac yn poeni amdanat ti,” meddai datganiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.