Llwyddodd Gareth Bale i gadw’r freuddwyd yn fyw i Gymru gyda gôl chwe munud o’r diwedd i sicrhau buddugoliaeth 2-1 yn erbyn Azerbaijan neithiwr.

Mae’n golygu bod Cymru bellach o fewn tri phwynt i Croatia a Hwngari, y ddau dîm sydd ar frig Grŵp E yng ngemau rhagbrofol Euro 2020.

Byddai unrhyw beth llai na buddugoliaeth yn erbyn Azerbaijan wedi bod yn drychinebus i obeithion Cymru.

Fe fu Cymru’n ffodus yn yr hanner cyntaf wedi i gefnwr Azerbaijan, Pavlo Pashayev, sgorio yn erbyn ei dîm ei hun. Ar ôl 58 munud, fodd bynnag, daeth y sgôr yn gyfartal gyda gôl gan Mahir Emreli wedi cyfres o gamgymeriadau amddiffynnol gan Neil Taylor a Wayne Hennessey

“Doeddwn i ddim yn hapus gyda’r hanner cyntaf,” meddai’r rheolwr Ryan Giggs. “Wnaethon ni ddim chwarae’n dda a wnaethon ni ddim cadw at y cynllun.

“Ro’n i’n gwybod na fyddai 1-0 yn ddigon da, ac ro’n i’n rhwystredig. Fe gawson ni lawer o feddiant ond wnaethon ni symud y bêl yn ddigon cyflym.”

Er hyn roedd yn canmol y tîm am ddal ati:
“Dw i wrth fy modd gyda’r tri phwynt,” meddai. “Rydym bob amser yn gweithio’n galed ac fe fyddwn ni’n dysgu o hyn.”