Mae ffilm ddogfen am gerddoriaeth Gymraeg wedi derbyn chwe enwebiad ar gyfer Gwobrau BAFTA Cymru 2019.

Ymhlith yr enwebiadau i Anorac mae un i Hugh Stephens yn y categori ar gyfer y cyflwynydd gorau.

A’r DJ ei hun fydd yn cyflwyno’r seremoni yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar Hydref 13.

Ymhlith yr enwau cyfarwydd ar y rhestrau byrion mae Syr Anthony Hopkins, Michael Sheen a Jodie Whittaker.

Yn ôl Cyfarwyddwr BAFTA, Hannah Raybould, bu’n “flwyddyn wych i gynhyrchu, teledu a gemau yng Nghymru”.

Yr enwebiadau

Mae cyfres ddrama S4C, Enid a Lucy, wedi derbyn pum enwebiad, gyda’r actores Eiry Thomas wedi ei henwebu yn y categori Actores.

Bydd hi’n cystadlu yn erbyn Jodie Whittaker – y ddynes gyntaf i chwarae’r brif ran yng nghyfres Doctor Who – yn ogystal â Sian Gibson o’r gyfres gomedi, Peter Kay’s Car Share, a Gabrielle Creevey o’r ddrama gomedi, In My Skin – sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd.

Ymhlith yr enwogion yn y categori Actor mae Syr Anthony Hopkins am ei bortread o’r prif gymeriad yn y ffilm King Lear, a Michael Sheen o’r cynhyrchiad Netflix, Apostle – a gafodd ei ffilmio yn ne Cymru ac sydd wedi cael cyfanswm o bedwar enwebiad.

Mae Matthew Rhys hefyd wedi cael ei enwebu yn yr un categori am chwarae rhan Billy Winters yn Death and Nightingales, yn ogystal â’r actor o Fôn, Celyn Jones, am bortreadu’r llofrudd Levi Bellfield yn nrama ITV, Manhunt.

Yr awduron sydd wedi cyrraedd y brig wedyn mae Andrew Davies ar gyfer Les Miserables; Fflur Dafydd ar gyfer 35 Awr; Owen Sheers ar gyfer NHS To Provide all People; a Russel T Davies ar gyfer A Very English Scandal.