Mae dros hanner poblogaeth y Deyrnas Unedig am i Lywodraeth San Steffan gyfyngu’r defnydd o ‘dechnoleg adnabod wynebau’.

Dyna gasgliad ymchwil gan yr Ada Lovelace Institute ynghyd â YouGov i’r dechnoleg sydd eisoes wedi’i ddefnyddio gan lu heddlu yng Nghymru.

Mae facial recognition technology yn cymharu delweddau o bobol mewn torfeydd gyda chronfeydd lluniau heddlu, a thrwy hynny mae’n gallu adnabod pobol sydd ar goll neu sy’ wedi troseddu.

Er gwaethaf bendithion y dechnoleg, mae’r cyhoedd yn bryderus am ei ddefnydd, ac yn ôl yr ymchwil mae 55% o bobol am gyfyngu’r defnydd honno gan yr heddlu.

Cyfrifoldeb i weithredu”

“Mae’r canfyddiadau yma yn dangos bod gan gwmnïau a’r Llywodraeth gyfrifoldeb i weithredu yn awr,” meddai Cyfarwyddwr yr Ada Lovelace Institute, Carly Kind.

“Dyw’r Deyrnas Unedig ddim yn barod am dechnoleg adnabod wynebau.

“Byddai cytundeb gwirfoddol a dros dro … i beidio â defnyddio’r dechnoleg yn caniatáu i ni gael trafodaeth gall â’r cyhoedd am [y dechnoleg].”

Rhoddodd Heddlu’r De gynnig ar y dechnoleg yn ystod gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn 2017. Dyma’r llu cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddefnyddio’r dechnoleg mewn digwyddiad o’r fath.

Canfyddiadau

  • Mae 29% yn anghyffyrddus â lluoedd heddlu yn defnyddio’r dechnoleg o gwbl
  • Byddai 49% yn cefnogi defnydd o’r dechnoleg gan luoedd o ddydd i ddydd pe bai dulliau diogelu mewn grym
  • Mae 67% yn gwrthwynebu’r defnydd o’r dechnoleg mewn ysgolion

Cafodd 4,109 oedolyn eu holi fel rhan o’r ymchwil.