Mae dyn, 39, wedi gwadu llofruddio cyn-ddarlithydd ym Môn ym mis Ebrill.

Fe gafodd Gerald Corrigan, 74, ei saethu â bwa croes tra oedd yn addasu lloeren deledu y tu allan i’w gartref ger Caergybi ar Ebrill 19. Bu farw yn yr ysbyty o’i anafiadau ar Fai 11.

Mae Terence Whall o Fryngwran wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o lofruddiaeth yn Llys y Goron y Wyddgrug heddiw (dydd Iau, Medi 5).

Mae hefyd wedi gwadu cynllwyno i wyrdroi cwrs cyfiawnder. Mae tri dyn arall – Darren Jones, 41, Martin Roberts, 34, a Gavin Jones, 36 – hefyd wedi gwadu cyhuddiadau tebyg yn eu herbyn.

Mae’r pedwar dyn yn cael eu cyhuddo o losgi Land Rover Discovery ar Fehefin 3.

Fe benderfynodd y barnwr gadw’r dynion o dan glo tan ddechrau’r achos llys ar Ionawr 14, ac mae disgwyl iddo bara rhwng pedair i bum wythnos.