Mae bardd sydd wedi bod yn athro ar genedlaethau o blant Merthyr Tudful, wedi cyfansoddi cerdd newydd sbon ar gyfer y rali annibyniaeth yn y dref ddydd Sadwrn (Medi 7).

Yn ol Mike Jenkins, mae cynnal gobaith pobol Cymru yn bwysig – ac mae hynny’n cynnwys dangos yn gyhoeddus faint o bobol sy’n teimlo yr un fath am y dref wleidyddol.

“Mater o hyder yw e,” meddai Mike Jenkins wrth golwg360. “Ers cannoedd o flynyddoedd, mae’r Cymry wedi byw fel gweision yn eu tŷ eu hunain, ac mae’r rali yn un ffordd o ddangos fod posib creu system newydd.

“Mae tref Merthyr wedi bod yn dlawd ers i ni golli diwydiannau megis haearn a’r pyllau glo.

“Rydym yn gwybod fod cryfder yn perthyn i bobol Merthyr, mae digwyddiadau fel gwrthryfel 1831 pan oedd y bobol yn gweiddi am fara a chaws yn dangos hynny,” meddai wedyn.

“Rwy’n credu y gall annibyniaeth roi bara a chaws i bobol Merthyr.”

Dim sicrwydd am Gymru annibynnol

Er bod Mike Jenkins yn grediniol mai annibyniaeth yw’r ffordd ymlaen, mae’n cydnabod nad oes sicrwydd y daw Cymru’n annibynnol.

“Wrth gwrs, rwy’n sylweddoli fod annibyniaeth ddim yn sicr o ddigwydd… ond pan fydd yr Alban yn ennill ei hannibyniaeth, fe fydd e’n ysbrydoli’r Cymry.

“Rwy’n credu fod angen rhywbeth gwahanol ar y Cymry na’r system Brydeinig ac anhrefn San Steffan.”