Ysbyty Athrofaol Cymru
Gall hyd at 21,000 o swyddi ddiflannu o’r sector gyhoeddus yng Nghymru yn ystod y pedair blynedd nesaf yn ôl adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol.

Mae’r adroddiad y dweud y bydd gosytngiad o 12.4%  sef £1.9 biliwn, mewn termau real yn lefelau ariannu y sector erbyn 2014- 15 ar yr un pryd ac y bydd y galw ar y gwasanaethau cyhoeddus yn cynyddu

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol Huw Vaughan Thomas, y bydd y sector gyhoeddus yn wynebu pwysau ariannol na welwyd o’r blaen ac mai’r gwasanaeth iechyd fydd yn wynebu’r her fywaf.

“Nod fy adroddiad… yw helpu gwasanaethau cyhoeddus i wneud dewisiadau anodd a phenderfyniadau gwybodus yn yr hinsawdd hynod anodd sydd ohoni” meddai.

Bydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn wynebu bwlch o hyd at £570 miliwn erbyn 2012 -14 a’r cynghorau yn wynebu gostyngiad mewn termau real o 7% yn eu cyllidebau erbyn 2013 – 14.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yr adroddiad yn cydnabod bod yna leihad o £1.9 biliwn mewn termau real yn eu cyllideb dros gyfnod o bedair blynedd gan ychwanegu eu bod yn ceisio blaenoriaethu ac amddiffyn gwasanaethau ar gyfer y bobl mwyaf bregus.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru bod gwariant cyhoeddus 12% yn uwch y pen yng Nghymru nag yn Lloegr tra bod y toriad yng nghyllideb Cymru dros y tair blynedd yn is ar gyfataledd na gweddill y Deyrnas Unedig.

“Wrth gwrs, Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu beth yw’r blaenoriaethau o ran gwariant ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan ddefnyddio eu cyllideb o £15 biliwn.” ychwanegodd.

Croesawyd yr adroddiad gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a dywedodd y Prif weithredwr Steve Thomas bod y cynghorau, yr heddlu a’r gwasanaethau tân “mewn sefyllfa da i gwrdd â’r her sydd o’u blaenau” gan ychwanegu ei bod yn anhebyg y bydd arbedion effeithlonrwydd yn ddigon ar eu pen ei hunain yn y tymor byr.