Mae cwmni dillad plant newydd symud eu warws i hen ffatri dillad awyr agored ar gyrion tref Porthmadog.

Fe gafodd Babi Pur ei sefydlu gan Jolene a Peter Barton ym Mhenrhyndeudraeth yn 2007 pan oedd ganddyn nhw “ddim ond £1,000″ i’w henwau

Roedd Jolene Barton wedi bod yn gweithio ym maes yswiriant ym Manceinion ond eisiau dod adref i Gymru gyda’u dwy ferch fach, sydd bellach yn 14 a 12 oed. Roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn Masnach Deg, a gyda hynny y blagurodd y syniad am sefydlu busnes ‘glân’ na fyddai’n gwneud niwed i’r amgylchedd nac yn cam-drin cynhyrchwyr ym mhen draw’r byd.

Nawr mae Babi Pur yn cyflogi 30 o bobol, yn mewnforio ac yn allforio eu cynnyrch i bob cwr, gan gynnwys Awstralia, ac mae ganddo ddilyniant cwlt gyda dros 26,000 o ddilynwyr ar wefan gymdeithasol Facebook.

Ond maen nhw bellach wedi symud eu busnes – a’i chwaer gwrmni Triclimb, sy’n gwneud tegnau dringo i blant – i hen ffatri Gelert.

“Roedden ni yn ehangu ac wedi bod yn chwilio am le digon mawr ers dipyn,” meddai Jolene Barton wrth golwg360. ““Ryda ni wedi tyfu yn organig a dyda ni ddim wedi cael benthyciad gan y banc…

 “Mae ganddon ni farchnad yng Nghymru ac rydan ni yn dod ag arian i mewn – ond mae 96% o’n marchnad ni dros y byd. Ac mae tegwch i bawb yn bwysig i ni. Os oes pobol yn prynu crys-T, mi ddylach chi wybod os ydi’r gweithwyr wedi cael eu trin yn deg.”